Rwy'n credu fy mod yn adnabod rhywun sydd wedi profi ymosodiad
Nid yw ymosodiad yn dderbyniol byth. Mae’n bosib y gall deall beth yw ymosodiad fod o gymorth cyn iddyn nhw benderfynu beth i'w wneud. Trwy roi gwybod i ni am ymosodiadau mae’r Brifysgol yn dod i ddeall y gymuned o fyfyrwyr yn well ac i ystyried sut y gellir gwella hyn i fod yn fwy cynhwysol. Rhowch amser i fynd ati i ddeall beth yw ymosodiad mewn gwirionedd oherwydd gall hyn helpu i lywio eich camau nesaf. Os ydych chi'n teimlo y gallwch chi siarad â nhw am yr hyn rydych chi wedi'i weld, efallai y byddan nhw’n gallu disgrifio'r hyn sydd wedi bod yn digwydd a sut mae wedi gwneud iddyn nhw deimlo.
Meddyliwch
Nid adnodd i adrodd mewn argyfwng yw Adrodd a Chymorth.
A ydyn nhw (chi) mewn perygl uniongyrchol neu wedi'u hanafu'n ddifrifol?
Os yw digwyddiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi a nhw'n teimlo'n ddiogel.
- Ar y Campws, Os oes argyfwng ffoniwch 999 neu'r staff Diogelwch ar 01970 622649 neu ffôn symudol 07889 596220.
- Oddi ar y Campws, Gwasanaethau Brys: 999 (neu 112 o ffôn symudol). Os na allwch siarad:
- Gwrandewch ar gwestiynau’r gweithredwyr 999
- Ymatebwch trwy besychu neu dapio'r set law os gallwch chi, neu gan ddefnyddio unrhyw ffordd arall i gyfathrebu
- Pan ofynnir i chi wneud hynny, Gwasgwch 55
- Llety Myfyrwyr PA: os yw'r cam-drin yn digwydd o fewn Llety Myfyrwyr PA dros nos neu yn ystod y penwythnosau, ffoniwch staff Diogelwch y Safle
Os yw digwyddiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi a nhw'n teimlo'n ddiogel.
Siarad
Siaradwch â nhw - Os ydych chi'n teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny, weithiau gall siarad am bethau fod o gymorth mawr.
- Gwrandewch - Peidiwch â chynhyrfu, byddwch yn empathig a dangos eich gofal. Ceisiwch wrando heb farnu na chyfarwyddo.
- Rhowch opsiynau - Pan fyddan nhw wedi gorffen siarad gofynnwch a ydyn nhw'n barod i drafod rhai opsiynau posibl a'r camau nesaf. Gadewch i'r unigolyn gadw rheolaeth ar y sgwrs ac ar ei benderfyniadau.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gofalu amdanoch chi’ch hun ac os oes angen cymorth arnoch gofynnwch amdano.
Cefnogaeth
Dysgwch fwy am yr opsiynau am gymorth o fewn a thu allan i'r Brifysgol er mwyn ymdrin ag ymosodiad.
Rhoi Gwybod
Mae'n hollol o fewn eich hawliau i roi gwybod yn ffurfiol am ymosodiad. Gallwch roi gwybod am rywbeth yn ffurfiol i'r Brifysgol a/neu'r heddlu os yw'n drosedd.
- Adrodd i'r Brifysgol - Gallwch ddewis adrodd gyda'ch manylion cyswllt neu yn ddienw gan ddefnyddio'r botymau uchod.
- Adrodd i'r heddlu - Os ydych chi'n ystyried adrodd i'r heddlu, mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi cynhyrchu gwybodaeth ar sut y gall y broses hon weithio, a beth i'w ddisgwyl.
- Adrodd i Crime Stoppers yn ddienw - Gallwch ffonio Crime Stoppers ar unrhyw adeg ar 0800 555 111 neu ddefnyddio ffurflen ar-lein Crimestoppers.
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun weld eich bod chi wedi bod ar y dudalen hon, dysgwch sut i guddio’ch ôl ar-lein.