Pa gymorth sydd ar gael i mi?
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi profi ymosodiad, mae yna lawer o opsiynau cymorth ar gael i fyfyrwyr a staff. Gall siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddynt megis ffrind, perthynas, neu gydweithiwr helpu weithiau.
Os gwnaethoch brofi ymosodiad rhywiol yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, efallai yr hoffech fynd i ganolfan SARC a/neu drefnu i weld y Cynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol (ISVA). Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen we ganlynol:- SARCs and ISVAs - New Pathways
Cynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol (ISVA) - Mae Cynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol yn rhoi cymorth a chyngor emosiynol ac ymarferol i unrhyw fyfyriwr sydd wedi profi trais rhywiol, yn ddiweddar neu yn y gorffennol. Gallwch gysylltu â hwy yn annibynnol ar ein gwasanaeth ni neu gall un o'n Swyddogion Cyswllt eich helpu i gysylltu.
Gallwn drefnu i chi gael Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO) - gall Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol wrando arnoch a thrafod yr opsiynau sydd ar gael i chi drwy wasanaethau allanol ac o fewn y brifysgol. Gall eich Swyddog Cyswllt penodedig hefyd gysylltu â'r gwasanaethau allanol hyn a staff y Brifysgol lle bo angen a bydd yn rhoi gofal a chefnogaeth 'gofleidiol' parhaus.
Mae cymorth gan Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol ar gael i chi, p'un a ddigwyddodd y trais rhywiol ar y campws neu oddi arno, neu os digwyddodd y trais rhywiol cyn i ddod i Aberystwyth.
Os oes argyfwng ffoniwch 999 neu'r staff Diogelwch ar 01970 622649 neu ffôn symudol 07889 596220 - https://www.aber.ac.uk/cy/efr/campus-security/