Nod yr adnodd adrodd newydd hwn yw darparu lleoliad canolog y gall yr holl staff ei ddefnyddio i roi gwybod am bryderon brys neu bryderon sy’n dod i’r amlwg ynglŷn â chysur neu les myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, fel y gellir trefnu cymorth priodol ac amserol.
Bydd y wybodaeth a gyflwynir yn cael ei derbyn gan aelodau uwch o’r tîm Cymorth i Fyfyrwyr ac yn cael ei darllen o fewn un diwrnod gwaith. Bydd camau priodol yn cael eu cymryd o fewn 48 awr, ac yn llawer cynt na hynny fel rheol.
Rydym yn deall y bydd llawer o staff yn dod i gysylltiad â myfyrwyr sydd mewn trallod ac y byddant yn teimlo'r angen i gynnig cymorth, neu’n cael cais i wneud hynny. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud hynny o fewn ffiniau'r hyn rydych yn teimlo'n gysurus yn ei wneud ac ceisio cymorth i chi'ch hun lle bo angen.
Wrth i ni ddechrau ymgorffori dull o ymdrin ag iechyd meddwl, lles ac atal hunanladdiad ledled y Brifysgol gyfan, un elfen yn unig yw’r adnodd hwn o’r ymdrech ehangach i sicrhau, fel cymuned, ein bod yn chwilfrydig ac yn effro i sylwi ar y myfyrwyr hynny nad ydynt o bosib yn ffynnu, ac ymyrryd mewn modd tosturiol.
___________________________________________________________________
Diffiniadau
Pryderon brys: lle mae angen ymateb ar unwaith ac mewn modd ystyriol, heb gymorth y gwasanaethau brys
Pryderon sy'n dod i'r amlwg: llai o frys ond yn gofyn am ymatebion prydlon, cydlynol a phriodol, yn ogystal ag ymchwilio i’r amgylchiadau yn briodol, cadw llygad barhaus ar y sefyllfa a chynnig cymorth.
Mae'r tîm Cymorth i Fyfyrwyr yn gweithredu yn ystod oriau gwaith (09:00 - 17:00 / dydd Llun - dydd Iau a 09:00 - 16.30 ar ddydd Gwener). Nid yw'r Gwasanaethau i Fyfyrwyr yn gallu gweithredu fel gwasanaeth argyfwng. Serch hynny, rydym yn tanysgrifio i amrywiaeth o adnoddau a systemau cymorth y tu allan i oriau sy'n cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol. Mae gennym hefyd berthynas dda iawn â'n gwasanaethau statudol lleol a gallwn helpu myfyrwyr i fanteisio ar y gwasanaethau hynny lle bo'n briodol.