Beth yw ymosodiad?
Nid yw ymosodiad o unrhyw fath yn dderbyniol. Os effeithiwyd arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod gan ymosodiad, yna rydym yn eich annog i geisio cymorth. Gall rhai mathau o ymosodiad hefyd fod yn gyfystyr â throseddau, neu droseddau casineb.
Ymosodiad geiriol Mae ymosod geiriol yn ei gwneud hi’n drosedd defnyddio iaith fygythiol, ddifrïol neu sarhaus gyda’r bwriad o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i rywun arall.
Ymosodiad corfforol Ymosodiad corfforol yw unrhyw weithred lle mae person yn fwriadol neu’n ddi-hid yn achosi i rywun arall ddioddef neu fod ofn trais anghyfreithlon uniongyrchol. Mae’r term ymosodiad yn cael ei ddefnyddio’n aml i gynnwys curo, sy’n cael ei gyflawni trwy ddefnyddio grym anghyfreithlon ar berson arall yn fwriadol neu’n ddi-hid.
Ymosodiad rhywiol Mae ymosodiad rhywiol yn drosedd sy'n mynd yn groes i reolau'r brifysgol, ac ymdrinnir â throseddau o’r fath yn unol â’r gweithdrefnau disgyblu (sydd i’w gweld ar https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/weithdrefn-disgyblu-myfyrwyr/). Mae person yn cyflawni ymosodiad rhywiol os yw’n cyffwrdd â pherson arall yn fwriadol, bod y cyffwrdd yn rhywiol ac nid yw’r person yn cydsynio.
Mae’n cynnwys pob cysylltiad corfforol digroeso o natur rywiol, ac mae’n amrywio o binsio, cofleidio, bodio a chusanu, i dreisio ac ymosodiad rhywiol sy’n cynnwys treiddiad heb gydsyniad.
Cydsyniad yw cytuno drwy ddewis, a chael y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. Mae unigolyn yn rhydd i ddewis os gall ddweud 'na' gan wybod na fyddai unrhyw beth drwg yn digwydd iddo.
Mae gallu yn ymwneud â ph'un a yw rhywun yn gallu gwneud dewis yn gorfforol a/neu’n feddyliol a deall canlyniadau’r dewis hwnnw.