Ni yw ymosodiad o unrhyw fath yn dderbyniol. Gall deall beth sy'n cael ei ystyried yn ymosodiad fod o gymorth cyn i chi benderfynu beth i'w wneud.  

Mae rhoi gwybod am ymosodiad yn galluogi’r Brifysgol i ddeall cymuned y myfyrwyr yn well ac i ystyried sut y gellir ei gwella i fod yn fwy cynhwysol.   

Nid eich bai chi oedd yr hyn a ddigwyddodd, dydych chi ddim ar eich pen eich hun, a’ch dewis chi fydd beth i’w wneud nesaf. 

Meddyliwch

Nid adnodd i roi gwybod am argyfwng yw Adrodd a Chymorth. 

Ydych chi mewn perygl uniongyrchol neu wedi’ch anafu’n ddifrifol? 

  • Ar y Campws, Os oes argyfwng ffoniwch 999 neu Diogelwch y Campws ar 01970 622649 neu 07889 596220.
  • Oddi ar y Campws, Gwasanaethau Brys: 999 (neu 112 o ffôn symudol).  Os nad ydych chi’n gallu siarad:
  •  
    • Gwrandewch ar gwestiynau’r gweithredwr 999
    • Ymatebwch trwy beswch neu dapio’ch dyfais os gallwch chi, neu trwy unrhyw ffordd arall i roi gwybod eich bod chi yno
    • Pan y gofynnir i chi wneud hynny, pwyswch 55
  • Llety Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: os yw’r gamdriniaeth yn digwydd o fewn Llety’r Brifysgol dros nos neu yn ystod y penwythnos, ffoniwch Diogelwch y Safle neu’r Heddlu.

Os yw’r ymosodiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rhywle lle rydych chi’n teimlo’n ddiogel.

Siarad

Siaradwch â ffrind – gall siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt helpu weithiau.

 

Cymorth

Dysgwch fwy am yr opsiynau cymorth sydd ar gael yn y Brifysgol a’r tu hwnt ar gyfer delio ag ymosodiad.

 

Adrodd

Mae o fewn eich hawliau i adrodd yn ffurfiol am ymosodiad. Gallwch roi gwybod yn ffurfiol i'r Brifysgol a/neu'r heddlu os yw'n drosedd.  

  • Rhoi gwybod i’r Brifysgol - Gallwch ddewis adrodd gyda’ch manylion cyswllt neu yn ddienw gan ddefnyddio'r botymau uchod. Nid yw Adrodd + Cymorth yn adroddiad ffurfiol sy'n cynnwys trefn ddisgyblu, ond gallwn gyfarfod â chi i weld a yw hyn yn opsiwn.
  • Rhoi gwybod i’r heddlu – Os ydych chi’n ystyried rhoi gwybod i’r heddlu, mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi paratoi gwybodaeth am sut y gallai’r broses hon weithio, a beth i’w ddisgwyl. 
  • Rhoi gwybod i Crime Stoppers yn ddienw – Gallwch ffonio Crime Stoppers unrhyw bryd ar 0800 555 111 neu trwy ffurflen ar-lein Crimestoppers.

Os ydych chi’n poeni y gallai rhywun weld eich bod chi wedi ymweld â’r dudalen hon, darllenwch y canllaw hwn ar sut i guddio’ch gweithgarwch ar-lein.