Beth yw ymosodiad?
 
Nid yw ymosodiad o unrhyw fath yn dderbyniol. Os effeithiwyd arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod gan ymosodiad, yna rydym yn eich annog i geisio cymorth.
 
Gall rhai mathau o ymosodiad hefyd fod yn gyfystyr â throseddau, neu droseddau casineb.
 
Ymosodiad geiriol
 
Mae ymosod geiriol yn ei gwneud hi’n drosedd defnyddio iaith fygythiol, cam-driniol neu sarhaus gyda’r bwriad o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i rywun arall.
 
Ymosodiad corfforol
 
Ymosodiad corfforol yw unrhyw weithred lle mae person yn fwriadol neu’n ddi-hid yn achosi i rywun arall ddioddef neu fod ofn trais anghyfreithlon uniongyrchol. Mae’r term ymosodiad yn cael ei ddefnyddio’n aml i gynnwys curo, sy’n cael ei gyflawni trwy ddefnyddio grym anghyfreithlon ar berson arall yn fwriadol neu’n ddi-hid.
 
Ymosodiad rhywiol
 
Mae ymosodiad rhywiol yn drosedd ac nid yn ymddygiad ar gyfer gweithdrefn gwyno a disgyblu’r brifysgol (sydd i’w chael yn https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/weithdrefn-disgyblu-myfyrwyr/). Mae person yn cyflawni ymosodiad rhywiol os yw’n cyffwrdd â pherson arall yn fwriadol, bod y cyffwrdd yn rhywiol ac nid yw’r person yn cydsynio. 
 
Mae’n cynnwys pob cysylltiad corfforol digroeso o natur rywiol ac mae’n amrywio o binsio, cofleidio, byseddu a chusanu, i dreisio ac ymosodiad rhywiol sy’n cynnwys treiddiad heb gydsyniad.
 
Cydsyniad yw cytuno drwy ddewis, a chael y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw.
Mae person yn rhydd i wneud dewis os na fyddai dim byd drwg yn digwydd iddo/iddi pe bai’n dweud na.
Mae galluedd yn ymwneud ag a yw rhywun yn gallu gwneud dewis yn gorfforol a/neu’n feddyliol a deall canlyniadau’r dewis hwnnw 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd