Nid yw cam-drin yn dderbyniol byth; Does NEB yn haeddu profi trais neu reolaeth yn eu bywydau.  Efallai y bydd o gymorth i chi ddeall beth sy’n cael ei ystyried yn gam-drin domestig cyn i chi benderfynu beth i'w wneud.  

Cymerwch amser i ddeall beth yn union yw cam-drin domestig gan y gall hyn helpu i lywio eich camau nesaf. Os ydych chi'n teimlo y gallwch chi siarad â nhw am yr hyn rydych chi wedi'i weld neu’i glywed, efallai y byddan nhw’n gallu disgrifio'r hyn sydd wedi bod yn digwydd a sut mae wedi gwneud iddyn nhw deimlo.  

Meddyliwch

Nid adnodd i adrodd mewn argyfwng yw Adrodd a Chymorth.   

A ydyn nhw/chi mewn perygl uniongyrchol neu wedi'u hanafu'n ddifrifol? 

  • Ar y Campws, Os oes argyfwng ffoniwch 999 neu'r staff Diogelwch ar 01970 622649 neu ffôn symudol 07889 596220.
  • Oddi ar y Campws, Gwasanaethau Brys: 999 (neu 112 o ffôn symudol).  Os na allwch siarad:
    • Gwrandewch  ar gwestiynau’r gweithredwyr 999
    • Ymatebwch trwy besychu neu dapio'r set law os gallwch chi, neu gan ddefnyddio unrhyw ffordd arall i gyfathrebu
    • Pan ofynnir i chi wneud hynny, Gwasgwch 55
  • Llety Myfyrwyr PA: os yw'r cam-drin yn digwydd o fewn Llety Myfyrwyr PA dros nos neu yn ystod y penwythnosau, ffoniwch staff Diogelwch y Safle neu’r Heddlu.

Os yw digwyddiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi a nhw'n teimlo'n ddiogel. 

Siarad

  • Siaradwch â nhw - Os ydych chi'n teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny, weithiau gall siarad am bethau fod o gymorth mawr.
  • Gwrandewch - Peidiwch â chynhyrfu, byddwch yn empathig a dangos eich gofal.Ceisiwch wrando heb farnu na chyfarwyddo.
  • Rhowch opsiynau - Pan fyddan nhw wedi gorffen siarad gofynnwch a ydyn nhw'n barod i drafod rhai opsiynau posibl a'r camau nesaf.  Gadewch i'r unigolyn gadw rheolaeth ar y sgwrs ac ar ei benderfyniadau.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gofalu amdanoch chi’ch hun ac, os oes angen cymorth arnoch, gofynnwch amdano.

Rhoi Gwybod

Adrodd i'r Brifysgol - Gallant ddewis adrodd gyda'u manylion cyswllt neu yn ddienw gan ddefnyddio'r botymau isod. Os ydynt yn rhoi eu manylion cyswllt, bydd cynghorydd yn cysylltu â nhw ac yn siarad trwy'r opsiynau a’r cymorth sydd ar gael i iddynt, yn gyfrinachol. 

  • Dewis peidio ag adrodd – rydym yn gwerthfawrogi bod yna lawer o resymau pam y gallai rhywun ddewis peidio ag adrodd, felly mae’n bwysig ein bod yn parchu eu penderfyniad. Gallant barhau i gael mynediad at gymorth o fewn y Brifysgol ac yn allanol, am ddim, a heb bwysau i adrodd. 

Cefnogaeth

Dysgwch fwy am y dewisiadau cymorth o fewn a thu allan i'r Brifysgol i bobl sydd wedi neu sydd yn profi cam-drin domestig.

Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun weld eich bod chi wedi bod ar y dudalen hon, dysgwch sut i guddio’ch ôl ar-lein.