Credwn nad yw cam-drin yn dderbyniol byth; Does NEB yn haeddu profi trais neu reolaeth yn eu bywydau. Nid eich bai chi yw'r gamdriniaeth, ac nid ydych ar eich pen eich hun. Efallai y bydd o gymorth i chi ddeall beth sy’n cael ei ystyried yn gam-drin domestig cyn i chi benderfynu beth i'w wneud.
Mae rhoi gwybod am achosion o gam-drin domestig yn caniatáu i'r Brifysgol ddeall ein cymuned o fyfyrwyr a'r hyn y maen nhw'n ei brofi. Pan fydd aelodau o staff yn datgelu i ni eu bod wedi dioddef cam-drin domestig, gall y Brifysgol sicrhau cymorth a diogelwch yn ogystal â chyfeirio at gymorth arbenigol. Gallwch roi gwybod am ddigwyddiad yn ddienw ac, os byddwch chi’n darparu manylion cyswllt, gall un o'n cynghorwyr siarad â chi am yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol. Os ydych chi'n dweud wrthym pwy ydych chi, gallwn drafod cefnogaeth a chanllawiau mwy penodol. Gallwch benderfynu sut i ddatgelu digwyddiadau i ni a byddwn yn gofyn i chi sut yr hoffech i ni ymateb.
Meddyliwch
Nid adnodd i adrodd mewn argyfwng yw Adrodd a Chymorth.
A ydych chi mewn perygl uniongyrchol neu wedi'ch anafu'n ddifrifol?
- Ar y Campws, Os oes argyfwng ffoniwch 999 neu'r staff Diogelwch ar 01970 622649 neu ffôn symudol 07889 596220.
- Oddi ar y Campws, Gwasanaethau Brys: 999 (neu 112 o ffôn symudol). Os na allwch siarad:
- Gwrandewch ar gwestiynau’r gweithredwyr 999
- Ymatebwch trwy besychu neu dapio'r set law os gallwch chi, neu gan ddefnyddio unrhyw ffordd arall i gyfathrebu
- Pan ofynnir i chi wneud hynny, Gwasgwch 55
- Llety Myfyrwyr PA: os yw'r cam-drin yn digwydd o fewn Llety Myfyrwyr PA dros nos neu yn ystod y penwythnosau, ffoniwch staff Diogelwch y Safle neu’r Heddlu.
Os yw digwyddiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi’n teimlo'n ddiogel.
Siarad
Mae gan Wasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru sesiynau galw heibio ar ddydd Iau cyntaf pob mis yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr ar Gampws Penglais.
Siarad â ffrind - Gall siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddynt helpu weithiau.
Rhoi Gwybod
Eich hawl chi’n llwyr yw rhoi gwybod am ddigwyddiadau o gam-drin domestig. Mae llawer o fathau o gam-drin domestig yn droseddau a gall yr heddlu arestio, rhybuddio neu gyhuddo'r troseddwr. Gallwch roi gwybod am rywbeth yn ffurfiol i'r Brifysgol neu’r Heddlu.
- Adrodd i'r Brifysgol - Gallwch ddewis adrodd gyda'ch manylion cyswllt neu yn ddienw gan ddefnyddio'r ffurflen Adrodd a Chymorth. Os ydych chi'n dweud wrthym pwy ydych chi ac yn rhoi eich manylion cyswllt, bydd cynghorydd yn cysylltu â chi ac yn siarad trwy'r opsiynau sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
- Adrodd i'r heddlu - Os ydych chi'n ystyried adrodd i'r heddlu, mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi llunio gwybodaeth ar sut y gall y broses hon weithio, a beth i'w ddisgwyl.
- Dewis peidio ag adrodd – rydym yn gwerthfawrogi bod yna lawer o resymau pam y gallech ddewis peidio ag adrodd, a byddwn yn parchu eich penderfyniad. Gallwch barhau i gael mynediad at gymorth o fewn y Brifysgol ac yn allanol, am ddim, a heb bwysau i adrodd.
Cefnogaeth
Dysgwch fwy am yr opsiynau am gymorth o fewn a thu allan i'r Brifysgol er mwyn ymdrin â cham-drin domestig.
Siarad â ffrind - Gall siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddynt helpu weithiau.
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun weld eich bod chi wedi bod ar y dudalen hon, dysgwch sut i guddio’ch ôl ar-lein.