Os ydych chi'n meddwl eich bod chi yn/wedi profi ymddygiad cymhellol/cam-drin domestig, mae yna lawer o opsiynau cymorth ar gael i fyfyrwyr a staff.
Cymorth i Fyfyrwyr
Y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer meysydd sy'n ymwneud â chymorth a chyngor i fyfyrwyr fyddai e-bostio Cymorth i Fyfyrwyr gan ddefnyddio svlo@aber.ac.uk. Byddant yn gallu eich rhoi ar ben ffordd o ran pa wasanaeth a allai fod yn addas i'ch anghenion.
Gallwn drefnu i chi gwrdd ag aelod arbenigol o'n tîm Gwrth-Aflonyddu a Thrais. Gallai hyn fod yn Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO) - gall Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol wrando arnoch a thrafod yr opsiynau sydd ar gael i chi drwy wasanaethau allanol ac o fewn y brifysgol. Gall eich Swyddog Cyswllt penodedig hefyd gysylltu â'r gwasanaethau allanol hyn a staff y Brifysgol lle bo angen a bydd yn rhoi gofal a chefnogaeth 'gofleidiol' parhaus.
Gall gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru gynnig cymorth arbenigol https://www.westwalesdas.org.uk/ Mae ganddynt sesiwn galw heibio yn y Brifysgol ar ddydd Iau cyntaf pob mis a chynhelir hyn yn y ganolfan Croesawu Myfyrwyr – Gwasanaethau Myfyrwyr : Prifysgol Aberystwyth. Gall ein tîm hefyd helpu i'ch cyfeirio at y gwasanaeth hwn.
Os ydych chi’n byw ar y campws a bod argyfwng, ffoniwch 999 neu'r staff Diogelwch ar 01970 622649 neu ffôn symudol 07889 596220 - https://www.aber.ac.uk/cy/efr/campus-security/
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn - 0808 80 10 800 https://www.gov.wales/live-fear-free Mae’r llinell gymorth hon yn rhoi cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae eu llinell gymorth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Cymorth y tu allan i'r Brifysgol
Weithiau gall fod yn ddefnyddiol cysylltu â sefydliadau lleol neu genedlaethol am gymorth ychwanegol, neu pe bai’n well gennych siarad â rhywun y tu allan i'r brifysgol.
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol Rhadffôn, llinell gymorth 24 awr i fenywod sy'n profi cam-drin domestig. Ffoniwch 0808 2000 247, neu ysgrifennwch drwy ddefnyddio eu hadnodd sgwrsio byw drwy'r wefan hon o ddydd Llun i ddydd Gwener, 3yp-10yh, neu ewch i www.nationaldahelpline.org.uk i ddefnyddio’r adnodd sgwrsio byw ddydd Llun i ddydd Gwener, 3-10yh
Gellir cysylltu â gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru yn uniongyrchol ar 01970 625585 https://www.westwalesdas.org.uk/
Mae Bawso 0800 7318147 rhadffôn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos - yn darparu gwasanaethau atal, amddiffyn a chymorth ymarferol ac emosiynol i Ddioddefwyr Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywaidd, Priodas dan Orfod, Trais ar sail Anrhydedd, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl i unigolion o Leiafrifoedd Ethnig Du (BME) a mudwyr.www.bawso.org.uk/en/
ManKind llinell gymorth i ddynion sy'n dioddef cam-drin domestig: Ffoniwch 01823 334244 ystod yr wythnos rhwng 10yb a 4yp https://mankind.org.uk/
Galop Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig LHDT+ Ffoniwch 0800 999 5428 o ddydd Llun i ddydd Gwener 10yb-5yp, dydd Mercher a dydd Iau 10yb-8yh https://www.galop.org.uk/domesticabuse
Karma Nirvana y Llinell Gymorth Cam-drin Seiliedig ar Anrhydedd genedlaethol ar gyfer menywod sy'n profi cam-drin ar sail anrhydedd neu sy'n wynebu priodas dan orfod, ffoniwch 0800 5999 247 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb-5yp https://karmanirvana.org.uk/
Cyngor ar Bopeth (Cam-drin Domestig) am wybodaeth am gam-drin domestig a'r gyfraith. https://www.citizensadvice.org.uk/family/gender-violence/domestic-violence-and-abuse/
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun weld eich bod chi wedi bod ar y dudalen hon, dysgwch sut i guddio’ch ôl ar-lein.
https://www.womensaid.org.uk/information-support/what-is-domestic-abuse/cover-your-tracks-online/