Gallwch roi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd drwy ein system Adrodd a Chymorth. Mae'r system yn gyfrinachol a dim ond nifer fach o staff dynodedig fydd yn gallu ei chyrchu ac fe fyddan nhw’n ymateb, yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi'i rannu. Rydych yn gallu dweud wrthon ni beth ddigwyddodd gyda'ch manylion er mwyn inni allu ymateb. Gallwch ddweud wrthon ni’n ddienw fel arall.
Mae dewis adrodd yn ddienw yn golygu ei bod yn bosibl na fyddwn yn gallu’ch helpu'n uniongyrchol ond fe all yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi gael ei defnyddio yn ddiweddarach a bydd yn ein helpu i roi gwell cefnogaeth i bobl eraill ac yn llywio gwaith atal ar draws y Brifysgol.
Cefnogaeth
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ddioddefwr / goroeswr aflonyddu, ymosodiad rhywiol neu drais rhywiol, mae cymorth ar gael. Gall profi unrhyw ddigwyddiad o’r fath fod yn drawmatig iawn ac efallai y byddwch chi'n profi ystod o emosiynau. Nid oes ffordd 'normal' neu 'gywir' o ymateb.
Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun ac nad ydych chi ar fai am yr hyn sydd wedi digwydd.
Ydych chi’n ddiogel?
Dyma rai camau syml y gallwch eu cymryd i helpu i sicrhau eich diogelwch:
- Dewch o hyd i rywle rydych chi'n teimlo'n ddiogel
- Efallai y byddwch chi mewn sioc, felly lapiwch yn gynnes
- Ystyriwch ddweud wrth rywun rydych chi'n ymddiried ynddo am yr hyn ddigwyddodd. Mae Victims First yn cynnig cymorth a gallwch siarad â rhywun yn gyfrinachol
- Ffoniwch 999os oes angen sylw meddygol brys arnoch.
Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)
Efallai yr hoffech hefyd ystyried cysylltu â Chanolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC). Mae SARC yn darparu cymorth pwrpasol i ddioddefwyr/goroeswyr trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol – gan gynnwys darparu gofod cyfrinachol ar gyfer cyfweliadau, archwiliadau a chasglu tystiolaeth. Gall rhai hefyd gynnig gwasanaethau cwnsela.
Mae'r gwasanaethau hyn ar gael i bob oedran a rhyw, a gallwch ddefnyddio eu gwasanaethau p’un a ydych chi’n bwriadu rhoi gwybod i’r heddlu ai peidio.
Os gwnaethoch brofi ymosodiad rhywiol yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, efallai yr hoffech fynd i ganolfan SARC a/neu drefnu i weld y Cynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol (ISVA). Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen we ganlynol:- SARCs and ISVAs - New Pathways
Gall unrhyw un hunan-gyfeirio at SARC. Mae hyn yn golygu y gallwch fynd i'r SARC yn annibynnol ac nid oes rhaid i chi gynnwys yr heddlu, nac unrhyw un arall os nad ydych chi eisiau.
Os ydych chi'n hunan-adrodd yn y modd hwn, gallwch chi ddewis a fydd unrhyw dystiolaeth sy'n cael ei chasglu yn cael ei throsglwyddo i'r heddlu. Os byddwch chi'n penderfynu adrodd am y digwyddiad yn ddiweddarach, bydd y dystiolaeth yn dal i fod yn y SARC.
Hefyd, os yw’n bosibl, ceisiwch gymryd y camau hyn:
- Peidiwch ag ymolchi
- Peidiwch â brwsio eich dannedd
- Peidiwch â chael sigarét
- Peidiwch â bwyta nac yfed
- Peidiwch â newid eich dillad
- os ydych chi'n newid eich dillad, peidiwch â'u golchi ond rhowch nhw mewn bag plastig glân
- ceisiwch beidio â mynd i'r toiled
- Peidiwch â chlirio unrhyw beth o ardal y digwyddiad
- Peidiwch â phoeni os ydych chi eisoes wedi gwneud rhai o'r pethau hyn. Mae'n bosibl y bydd tystiolaeth fforensig ar gael i'w chasglu o hyd.
Cynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol (ISVA) Gall Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol roi cymorth a chyngor emosiynol ac ymarferol i unrhyw fyfyriwr sydd wedi profi trais rhywiol, yn ddiweddar neu yn y gorffennol ni waeth a ydych chi’n dewis adrodd neu beidio.Gallwch gysylltu â hwy yn annibynnol ar ein gwasanaeth ni neu gall un o'n Swyddogion Cyswllt eich helpu i gysylltu.
Gallwn drefnu i chi gael Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO) - Bydd SVLO yn gallu gwrando arnoch a thrafod yr opsiynau sydd ar gael i chi drwy wasanaethau allanol ac o fewn y brifysgol. Gall eich Swyddog Cyswllt penodedig hefyd gysylltu â'r gwasanaethau allanol hyn a staff y Brifysgol lle bo angen a bydd yn rhoi gofal a chefnogaeth 'gofleidiol' parhaus.
Mae cymorth gan Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol ar gael i chi, p'un a ddigwyddodd y trais rhywiol ar y campws neu oddi arno, neu os digwyddodd y trais rhywiol cyn i ddod i Aberystwyth.
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun weld eich bod chi wedi bod ar y dudalen hon, dysgwch sut i guddio’ch ôl ar-lein. https://www.womensaid.org.uk/information-support/what-is-domestic-abuse/cover-your-tracks-online/