Gallwch roi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd drwy ein system Adrodd a Chymorth. Mae'r system yn gyfrinachol a dim ond nifer fach o staff dynodedig fydd yn gallu ei chyrchu ac fe fyddan nhw’n ymateb, yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi'i rannu. Rydych yn gallu dweud wrthon ni beth ddigwyddodd gyda'ch manylion er mwyn inni allu ymateb. Gallwch ddweud wrthon ni’n ddienw fel arall. Mae dewis adrodd yn ddienw yn golygu ei bod yn bosibl na fyddwn yn gallu’ch helpu'n uniongyrchol ond fe all yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi gael ei defnyddio yn ddiweddarach a bydd yn ein helpu i roi gwell cefnogaeth i bobl eraill ac yn llywio gwaith atal ar draws y Brifysgol.

Cymorth y tu allan i'r Brifysgol

Weithiau gall fod yn ddefnyddiol cysylltu â sefydliadau lleol neu genedlaethol am gymorth ychwanegol, neu pe bai’n well gennych siarad â rhywun y tu allan i'r brifysgol.

Victim Support are the leading independent victims’ charity in England and Wales. They provide free and confidential support to anyone affected by crime and traumatic events.

Sut gallwch chi gysylltu?

Gall unrhyw un ffonio am ddim ar 0300 30 31 982 (24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)

24/7 Live Chat service: www.reporthate.vitimsupport.org.uk

Gallwch chi anfon e-bost hate.crimewales@victimsupport.org.uk neu gallwch chi gyfeirio eich hunan drwy gwefan yma Riportio Trosedd Casineb - Troseddau Casineb Cymru

Sut gallant nhw helpu?

Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn wasanaeth arbenigol, annibynnol, cyfrinachol am ddim sydd ar gael i bobl sy'n byw yng Nghymru sydd wedi cael profiad casineb;

• Troseddau a digwyddiadau casineb

• P'un a yw wedi'i adrodd wrth yr Heddlu ai peidio

• Teuluoedd cyfan, unigolion, plant

• Gall plant 13+ oed gysylltu â'r gwasanaeth yn uniongyrchol, gall y rheini sy'n iau na 13 ymgysylltu gyda chymorth rhiant neu ofalwr

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i gefnogi gyda diogelwch, cymorth tymor hwy, adrodd trydydd parti i'r heddlu a mwy.

Nid oes cyfyngiad amser ar ba mor hir yn ôl oedd y digwyddiad, er mwyn cyrchu cymorth yn awr