Mae gennym ystod o wasanaethau cymorth ar gael o fewn y Brifysgol.
- Fel myfyriwr, darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich cam-drin https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices
- Fel aelod o staff, gallwch siarad â'ch rheolwr llinell neu Bennaeth Adran, neu os nad yw hynny'n briodol gallwch hefyd gysylltu ag Adnoddau Dynol yn uniongyrchol ar 01970-628555 neu drwy e-bostio hr@aber.ac.uk.
- Gall gweithwyr hefyd geisio cymorth trwy Raglen Cymorth i Staff y Brifysgol, sy'n darparu cyngor cyfrinachol, diduedd am ddim a chymorth personol a gwasanaethau cwnsela 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i staff.
- Mae Undebau Llafur (UCU, UNSAIN ac UNITE) yn darparu cefnogaeth i'w haelodau, gan gynnwys pan fyddwch chi'n dod ar draws unrhyw broblem yn y gweithle, megis aflonyddu, gwahaniaethu, diswyddo, ac ati.
- Mae yna fwy o wybodaeth am y cefnogaeth sydd ar gael i staff yma - Cefnogaeth i Staff
Dyma rai ffynonellau o gymorth cyffredinol:
- Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y gwahanol fathau o aflonyddu a throseddau casineb y gall pobl eu profi gan gynnwys troseddau casineb anabledd, troseddau casineb hiliol a chrefyddol, aflonyddu rhywiol, a throseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth drawsryweddol.
- Mae True Vision yn cynnig arweiniad ar adrodd am droseddau casineb a digwyddiadau casineb. Os nad ydych yn dymuno siarad ag unrhyw un yn bersonol am y digwyddiad, neu’n dymuno aros yn ddienw, mae ffurflen ar-lein ar gyfer adrodd am droseddau casineb; gallwch riportio digwyddiadau casineb nad ydynt yn droseddau i’r heddlu i geisio atal unrhyw waethygu o ran difrifoldeb.
- Mae Disability Equality NW yn cynnal Prosiect Developing from the Negatives (DFN) sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb Anabledd ac annog adrodd.
- Mae Tell MAMA yn cefnogi dioddefwyr casineb gwrth-Fwslimaidd ac mae’n wasanaeth cyhoeddus sydd hefyd yn mesur ac yn monitro digwyddiadau gwrth-Fwslimaidd.
- Mae Community Security Trust (CS) yn helpu’r rheini sy’n ddioddefwyr casineb, aflonyddu neu ragfarn gwrth-Semitaidd.
- Timau Plismona yn y Gymdogaeth. Mae gwefan yr Heddlu yn darparu rhestr o Dimau Plismona Cymdogaeth yn eich ardal, y gallwch gysylltu â nhw i gael manylion am eich Tîm Plismona Cymdogaeth lleol; sut i drefnu ymweliad gan eich Tîm Plismona Cymdogaeth ac asiantaethau cymorth lleol.
- Cymorth i Ddioddefwyr. Pan fyddwch yn riportio trosedd i’r heddlu, dylent ofyn yn awtomatig i chi a hoffech gael cymorth gan sefydliad megis Cymorth i Ddioddefwyr. Ond gall unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan drosedd gysylltu â nhw’n uniongyrchol, nid oes angen i chi siarad â’r heddlu i gael help gan Cymorth i Ddioddefwyr.