Rydym yn cydnabod y gwerth y mae sefydliadau arbenigol yn ei ddarparu i'r rhai yr effeithir arnynt gan ymddygiad annerbyniol, trais ac aflonyddu.
 
Dyma restr o wasanaethau cenedlaethol a allai fod o gymorth i chi, neu rywun rydych yn agos atynt…
  • Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu peth gwybodaeth i’ch cynorthwyo os ydych yn dioddef bwlio neu aflonyddu yn y gwaith
  • Mae’r Samariaid yn darparu cymorth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol, yn ei chael hi’n anodd ymdopi, neu sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad, ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Ffoniwch 116 123, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
  • Mae Tell Mama yn mesur troseddau casineb ac aflonyddu gwrth-Fwslimaidd
  • Mae Stop Hate UK yn cynnig cymorth i’r rhai sydd wedi dioddef troseddau casineb
  • Mae Mermaids wedi bod yn helpu plant a phobl ifanc amrywiol-rywedd a'u teuluoedd ers 1995
  • The Havens – cymorth arbenigol i bobl sydd wedi dioddef trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol. Am gyngor brys ac apwyntiadau, ffoniwch 020 3299 6900. 
  • Mae Solace yn darparu cyngor a chymorth i fenywod ar gam-drin domestig a thrais rhywiol. 
  • Mae Galop yn elusen sy’n cynorthwyo pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar sydd wedi dioddef trais rhywiol a thrais domestig. 
  • Changing Faces yw prif elusen y Deyrnas Unedig ar gyfer pawb sydd â chraith, marc neu gyflwr ar eu hwyneb neu eu corff sy’n gwneud iddynt edrych yn wahanol.
  • Mae Survivors UK yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chwnsela i ddynion a bechgyn sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol. 
  • Mencap yw’r brif elusen ym maes anableddau dysgu.
  • Mae Deaf Plus yn cynnig ystod eang o wasanaethau i'n cleientiaid i ddatblygu eu potensial a hyrwyddo annibyniaeth a lles.
  • Community Security Trust, - elusen sy’n amddiffyn Iddewon ym Mhrydain rhag gwrthsemitiaeth a bygythiadau cysylltiedig.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd