Beth yw gwahaniaethu?
 
Gwahaniaethu uniongyrchol
Mae hyn yn golygu trin rhywun yn llai ffafriol na rhywun arall oherwydd nodwedd warchodedig. 
 
Nid yw’n bosibl cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol, felly mae bob amser yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, mae eithriadau i’r darpariaethau addysg bellach ac uwch sy’n caniatáu, er enghraifft, i sefydliadau un rhyw dderbyn myfyrwyr o un rhyw yn unig heb i hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon.
 
Er mwyn i rywun ddangos ei fod wedi dioddef gwahaniaethu uniongyrchol, rhaid iddo/iddi gymharu’r hyn sydd wedi digwydd iddo ef neu hi â’r driniaeth y mae person heb ei nodwedd warchodedig yn ei derbyn neu a fyddai’n ei derbyn. Er enghraifft, pe bai myfyriwr hoyw yn credu ei fod wedi cael ei drin yn annheg oherwydd ei rywioldeb byddai'n rhaid iddo ddangos na fyddai person heterorywiol wedi cael ei drin yn yr un ffordd. Nid oes angen i fyfyriwr ddod o hyd i berson go iawn i gymharu ei driniaeth ag ef, gall ddibynnu ar berson damcaniaethol os gall ddangos tystiolaeth y byddai person o’r fath yn cael ei drin yn wahanol.
 
Nid oes angen i rywun sy’n hawlio gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd gwahanu hiliol neu feichiogrwydd neu famolaeth ddod o hyd i berson i gymharu ei hun ag ef/hi:
●       Gwahanu hiliol yw gwahanu pobl yn fwriadol yn ôl hil neu liw neu darddiad ethnig neu genedlaethol a bydd bob amser yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon.
●       I hawlio gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd neu famolaeth rhaid i fyfyrwraig ddangos ei bod wedi cael ei thrin yn anffafriol oherwydd ei beichiogrwydd neu ei mamolaeth ac nid oes rhaid iddi gymharu ei thriniaeth â thriniaeth rhywun nad oedd yn feichiog neu’n fam newydd.
 
Nid yw’n wahaniaethu uniongyrchol yn erbyn myfyriwr gwrywaidd i gynnig triniaeth arbennig i fyfyrwraig mewn cysylltiad â’i beichiogrwydd neu enedigaeth plentyn.
 
Nid yw’n wahaniaethu uniongyrchol yn erbyn myfyriwr nad yw’n anabl i drin myfyriwr anabl yn fwy ffafriol.
 
Enghreifftiau:
 
Mae coleg addysg bellach yn gwrthod cais ymgeisydd gwrywaidd ar gyfer cwrs gofal plant gan nad yw’n meddwl ei bod yn briodol i ddyn fod yn gweithio gyda phlant. Byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon ar sail rhyw.
 
Mae prifysgol yn rhoi mwy o amser i fyfyriwr â dyslecsia gwblhau ei arholiad na myfyrwyr eraill. Mae myfyriwr nad yw’n anabl yn gofyn am fwy o amser i gwblhau ei harholiad gan iddi fethu cwestiwn yn ddamweiniol, ond mae hyn yn cael ei wrthod. Ni fyddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon.
 
Mae gan fyfyriwr sydd â syndrom twnnel carpel gofnodwr i gymryd nodiadau yn ystod darlithoedd. Mae myfyriwr arall yn gofyn am gofnodwr gan fod angen iddo golli darlith i fynychu priodas. Nid yw’r brifysgol yn cytuno â’r cais hwn. Ni fyddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon. 
 
Gwahaniaethu ar sail cysylltiad
 
Mae gwahaniaethu uniongyrchol hefyd yn digwydd pan fyddwch yn trin myfyriwr yn llai ffafriol oherwydd ei gysylltiad â pherson arall sydd â nodwedd warchodedig (ac eithrio beichiogrwydd a mamolaeth). 
 
Gallai hyn ddigwydd pan fyddwch yn trin myfyriwr yn llai ffafriol oherwydd bod gan ei frawd neu chwaer, rhiant, gofalwr neu ffrind nodwedd warchodedig.
 
Gwahaniaethu ar sail canfyddiad
 
Mae gwahaniaethu uniongyrchol hefyd yn digwydd pan fyddwch yn trin myfyriwr yn llai ffafriol oherwydd eich bod yn meddwl ar gam fod ganddo nodwedd warchodedig (ac eithrio beichiogrwydd a mamolaeth).
 
Gwahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth
 
Mae’n wahaniaethu i drin menyw (gan gynnwys myfyrwraig o unrhyw oedran) yn llai ffafriol oherwydd ei bod yn feichiog neu wedi bod yn feichiog, wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 26 wythnos ddiwethaf neu’n bwydo babi 26 wythnos neu iau ar y fron. Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw yw trin menyw (gan gynnwys myfyrwraig o unrhyw oedran) yn llai ffafriol oherwydd ei bod yn bwydo plentyn dros 26 wythnos oed ar y fron.
 
Gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fyddwch yn cymhwyso darpariaeth, meini prawf neu arfer yn yr un modd ar gyfer pob myfyriwr neu grŵp penodol o fyfyrwyr, megis myfyrwyr ôl-radd, ond mae hyn yn cael yr effaith o roi myfyrwyr sy’n rhannu nodwedd warchodedig o fewn y grŵp myfyrwyr cyffredinol mewn sefyllfa o anfantais benodol. Nid oes ots nad oeddech yn bwriadu rhoi myfyrwyr â nodwedd warchodedig arbennig o dan anfantais yn y modd hwn. Yr hyn sy’n bwysig yw, a yw eich gweithred yn rhoi neu a fyddai’n rhoi myfyrwyr o’r fath o dan anfantais o gymharu â myfyrwyr nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.
 
Nid yw ‘anfantais’ yn cael ei ddiffinio yn y Ddeddf ond rheol gyffredinol yw y byddai person rhesymol yn ystyried bod anfantais wedi digwydd. Gall fod ar sawl ffurf wahanol, megis gwrthod cyfle neu ddewis, ataliaeth, gwrthodiad neu waharddiad.
 
Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn berthnasol ar gyfer pob sail warchodedig ac eithrio beichiogrwydd a mamolaeth, er y gall rhywbeth sy’n rhoi myfyrwyr beichiog neu famau newydd dan anfantais fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw.
 
Nid yw ‘darpariaeth’, ‘maen prawf’ neu ‘arfer’ wedi’u diffinio yn y Ddeddf ond gellir eu dehongli’n eang ac maent yn cynnwys:
 
●       Trefniadau (er enghraifft, ar gyfer penderfynu pwy i’w dderbyn)
●       Sut y mae addysg, neu fynediad at unrhyw fudd, gwasanaeth neu gyfleuster yn cael ei gynnig neu ei ddarparu
●       Penderfyniadau untro yn unig
●       Cynigion neu gyfarwyddiadau i wneud rhywbeth mewn ffordd arbennig.
 
Gallant fod wedi’u hysgrifennu’n ffurfiol neu efallai eu bod wedi datblygu gan eich bod wedi canfod y ffordd orau o gyflawni’r hyn oedd angen ei wneud.
 
Bydd gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd os bodlonir y pedwar amod canlynol:
 
●       rydych yn cymhwyso (neu y byddech yn cymhwyso) y ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer yn gyfartal i’r holl fyfyrwyr perthnasol, gan gynnwys myfyriwr penodol â nodwedd warchodedig, ac
●       mae’r ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer yn rhoi neu, byddai’n rhoi, myfyrwyr sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol o gymharu â myfyrwyr perthnasol nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno, ac
●       mae’r ddarpariaeth, y meini prawf, yr arfer neu’r rheol yn rhoi, neu byddai’n rhoi, y myfyriwr penodol dan yr anfantais honno, ac
●       ni allwch ddangos y gellir cyfiawnhau’r ddarpariaeth, y meini prawf neu’r arfer fel ‘dull cymesur o gyflawni nod cyfreithlon’.
 
Beth yw ‘dull cymesur o gyflawni nod cyfreithlon’?
I fod yn gyfreithlon mae’n rhaid i nod y ddarpariaeth, y meini prawf neu’r arfer fod yn gyfreithiol ac anwahaniaethol ac yn gyfystyr ag ystyriaeth wrthrychol wirioneddol. Yng nghyd-destun addysg bellach ac uwch, gallai enghreifftiau o nodau cyfreithlon gynnwys:
 
●       Cynnal safonau academaidd a safonau eraill.
●       Sicrhau iechyd a diogelwch a lles myfyrwyr.
 
Hyd yn oed os yw’r nod yn gyfreithlon, rhaid i’r dull o’i gyflawni fod yn gymesur. Mae cymesur yn golygu ‘priodol ac angenrheidiol’, ond nid yw ‘angenrheidiol’ yn golygu mai’r ddarpariaeth, maen prawf neu’r arfer yw’r unig ffordd bosibl o gyflawni’r nod cyfreithlon.
 
Er na all cost ariannol defnyddio dull llai gwahaniaethol, ynddo’i hun, roi cyfiawnhad, gellir ystyried y gost fel rhan o gyfiawnhad y sefydliad addysg bellach neu uwch, os oes rhesymau da eraill dros fabwysiadu’r arfer a ddewiswyd.
 
Po fwyaf difrifol yw’r anfantais a achosir gan y ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer gwahaniaethol, y mwyaf argyhoeddiadol y mae’n rhaid i’r cyfiawnhad fod.
 
Mewn achos yn ymwneud ag anabledd, os nad ydych wedi cydymffurfio â’ch dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol perthnasol bydd yn anodd i chi ddangos bod y driniaeth yn gymesur.
 
Enghraifft:
 
Mae myfyrwraig gwyddor yr amgylchedd sydd ag MS yn dioddef o broblemau deheurwydd dwylo, yn enwedig dwylo’n crynu. Mae’n cael ei hatal rhag gwneud arbrawf ymarferol sy’n cynnwys cemegau anweddol oherwydd gallai arllwys neu ollwng y sylweddau wrth wneud yr arbrawf. Byddai hyn yn peri risg iechyd a diogelwch iddi hi a myfyrwyr eraill ar y cwrs. Mae hyn yn annhebygol o fod yn wahaniaethu anuniongyrchol gan y gellid ei gyfiawnhau fel ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon. 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd