Efallai eich bod yn adnabod rhywun yr effeithiwyd arnynt gan fwlio, trosedd casineb, gwahaniaethu, ac ati, ac yn awyddus i’w helpu. Mae yna lawer o ffyrdd y gallech helpu.  Ystyriwch y pwyntiau canlynol:
 
Meddyliwch
  • A ydynt mewn perygl uniongyrchol? Os ydynt mewn perygl uniongyrchol neu wedi’u hanafu’n ddifrifol, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dewch o hyd i le diogel. Os oes digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod i hyd i rywle lle maent yn teimlo’n ddiogel. 
Siaradwch
  • Gwrandewch. Gall dim ond cymryd yr amser i wrando ar rywun a siarad am yr hyn sydd wedi digwydd fod o gymorth. Gallai'r chwe awgrym hyn ynglŷn â gwrando gweithredol eich helpu i'w cynorthwyo.          
  • Cynigiwch opsiynau. Pan fyddant wedi gorffen siarad gofynnwch iddyn nhw a ydynt yn hapus i drafod rhai opsiynau posibl a'r camau nesaf.
Adroddwch
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff adrodd am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallant ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch ofyn am gymorth gan gynghorydd. Os dewiswch siarad â chynghorydd bydd yn gallu trafod yr opsiynau a’r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
  • Gweithdrefn y Brifysgol. Os byddant yn dewis gwneud cwyn ffurfiol i’r Brifysgol ynglŷn â myfyriwr neu aelod o staff, mae gweithdrefnau sy’n nodi’r camau y bydd angen i chi eu dilyn. Gall cynghorydd annibynnol helpu i egluro’r broses hon i chi. 
Ceisiwch gymorth
 
Mae yna nifer o sefydliadau arbenigol sy’n darparu cymorth arbenigol, gan gynnwys cwnsela i'r rhai yr effeithir arnynt gan aflonyddu. Gallech annog eich cydweithiwr i fanteisio ar gymorth o’r fath.  
 
Iechyd Meddwl a Lles Meddyliol

Mae 1 ym mhob 4 person yn cael eu heffeithio gan broblem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn, ac amcangyfrifir bod tua 1 ym mhob 5 person wedi ystyried hunanladdiad neu hunan-niweidio.
 
  • Os ydych chi'n poeni neu'n bryderus, dysgwch fwy am sut y gallwch eu helpu drwy edrych ar y "Ffurflen mynegi pryder ar-lein" yn https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/wellbeing/access/ 
  • Gofalwch am eich hun. Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich hun. Os ydych wedi clywed rhywbeth sy’n peri gofid i chi neu os oes rhywbeth yn eich poeni,.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd