Gallai’r ffordd y cawsoch eich trin fod yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dyma ein polisïau cysylltiedig

Mae’n bwysig ystyried y camau canlynol:  

Meddyliwch

A ydych mewn perygl uniongyrchol? Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu wedi’ch anafu’n ddifrifol, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol) NEU gan ddibynnu ar eich lleoliad a'ch sefyllfa, pan fyddwch ar y campws gallwch ffonio:-

  • Diogelwch y Campws ar 01970 622649
  • Neuaddau Preswyl ar 01970 622900

Dewch o hyd i le diogel. Os oes digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle lle rydych chi’n teimlo’n ddiogel. 

A oes unrhyw un rydych chi'n ymddiried ynddynt gerllaw y gallwch siarad â nhw?

Adroddwch

  • Gall myfyrwyr a staff adrodd am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw, rhoi gwybod gyda manylion cyswllt (pan fo’n bosibl) neu gallwch ofyn am gymorth gan gynghorydd. Os dewiswch siarad â chynghorydd bydd yn gallu trafod yr opsiynau a’r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
  • Os byddwch yn dewis gwneud cwyn ffurfiol i’r Brifysgol ynglŷn â myfyriwr neu aelod o staff, mae gweithdrefnau sy’n nodi’r camau y bydd angen i chi eu dilyn. Gall cynghorydd annibynnol helpu i egluro’r broses hon i chi.

Ceisiwch gymorth

Mae gennym ystod o wasanaethau cymorth ar gael o fewn y Brifysgol.

  • Fel myfyriwr, darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich cam-drin https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices
  • Fel aelod o staff, gallwch siarad â'ch rheolwr llinell neu Bennaeth Adran, neu os nad yw hynny'n briodol gallwch hefyd gysylltu ag Adnoddau Dynol yn uniongyrchol ar 01970-628555 neu drwy e-bostio hr@aber.ac.uk.
    • Gall gweithwyr hefyd geisio cymorth trwy Raglen Cymorth i Staff y Brifysgol, sy'n darparu cyngor cyfrinachol, diduedd am ddim a chymorth personol a gwasanaethau cwnsela 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i staff.
    • Mae Undebau Llafur (UCU, UNSAIN ac UNITE) yn darparu cefnogaeth i'w haelodau, gan gynnwys pan fyddwch chi'n dod ar draws unrhyw broblem yn y gweithle, megis aflonyddu, gwahaniaethu, diswyddo, ac ati.
    • Mae yna fwy o wybodaeth am y cefnogaeth sydd ar gael i staff yma - Cefnogaeth i Staff

Iechyd Meddwl a Lles Meddyliol

Fel myfyriwr, gallwch ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd meddwl a lles yn https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/wellbeing/

Gofalwch am eich hun. Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich hun. Os ydych wedi clywed rhywbeth sy’n peri gofid i chi neu os oes rhywbeth yn eich poeni, siaradwch ag aelod o’r tîm Lles drwy ymweld â https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/wellbeing/access/ 

Fel aelod o staff, gallwch gysylltu â'r Rhaglen Cymorth i staff neu siarad yn uniongyrchol â'ch Rheolwr Llinell neu ag AD.