Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cydweithwyr a darparu amrywiaeth o wasanaethau lles a chymorth i bawb sy'n gweithio i'r Brifysgol.

Mae gennym ystod o wasanaethau cymorth ar gael o fewn y Brifysgol:

  • Fel aelod o staff, gallwch siarad â'ch rheolwr llinell neu Bennaeth Adran, neu os nad yw hynny'n briodol gallwch hefyd gysylltu ag Adnoddau Dynol yn uniongyrchol ar 01970-628555 neu drwy e-bostio hr@aber.ac.uk.
  • Gall gweithwyr hefyd geisio cymorth trwy Raglen Cymorth i Staff y Brifysgol, sy'n darparu cyngor cyfrinachol, diduedd am ddim a chymorth personol a gwasanaethau cwnsela 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i staff.
  • Mae Undebau Llafur (UCU, UNSAIN ac UNITE) yn darparu cefnogaeth i'w haelodau, gan gynnwys pan fyddwch chi'n dod ar draws unrhyw broblem yn y gweithle, megis aflonyddu, gwahaniaethu, diswyddo, ac ati.

Mae yna fwy o wybodaeth am y cefnogaeth sydd ar gael i staff yma - Cefnogaeth i Staff