Efallai yr hoffech hefyd ystyried cysylltu â Chanolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC). Mae SARC yn darparu cymorth pwrpasol i ddioddefwyr/goroeswyr trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol – gan gynnwys darparu gofod cyfrinachol ar gyfer cyfweliadau, archwiliadau a chasglu tystiolaeth. Gall rhai hefyd gynnig gwasanaethau cwnsela.

Mae'r gwasanaethau hyn ar gael i bob oedran a rhyw, a gallwch ddefnyddio eu gwasanaethau p’un a ydych chi’n bwriadu rhoi gwybod i’r heddlu ai peidio.

Os gwnaethoch brofi ymosodiad rhywiol yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, efallai yr hoffech fynd i ganolfan SARC a/neu drefnu i weld y Cynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol (ISVA). Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen we ganlynol:- SARCs and ISVAs - New Pathways

Gall unrhyw un hunan-gyfeirio at SARC. Mae hyn yn golygu y gallwch fynd i'r SARC yn annibynnol ac nid oes rhaid i chi gynnwys yr heddlu, nac unrhyw un arall os nad ydych chi eisiau.

Os ydych chi'n hunan-adrodd yn y modd hwn, gallwch chi ddewis a fydd unrhyw dystiolaeth sy'n cael ei chasglu yn cael ei throsglwyddo i'r heddlu. Os byddwch chi'n penderfynu adrodd am y digwyddiad yn ddiweddarach, bydd y dystiolaeth yn dal i fod yn y SARC.

Hefyd, os yw’n bosibl, ceisiwch gymryd y camau hyn:

  • Peidiwch ag ymolchi
  • Peidiwch â brwsio eich dannedd
  • Peidiwch â chael sigarét
  • Peidiwch â bwyta nac yfed
  • Peidiwch â newid eich dillad
  • os ydych chi'n newid eich dillad, peidiwch â'u golchi ond rhowch nhw mewn bag plastig glân
  • ceisiwch beidio â mynd i'r toiled
  • Peidiwch â chlirio unrhyw beth o ardal y digwyddiad
  • Peidiwch â phoeni os ydych chi eisoes wedi gwneud rhai o'r pethau hyn. Mae'n bosibl y bydd tystiolaeth fforensig ar gael i'w chasglu o hyd.