Beth yw camymddwyn rhywiol ac ymosodiad rhywiol?
Nid yw unrhyw fath o gamymddwyn, ymosodiad neu aflonyddu rhywiol byth yn dderbyniol.
Camymddwyn rhywiol
Mae camymddwyn rhywiol yn fath o aflonyddu ac yn ymddygiad annerbyniol o natur rywiol. Gall gynnwys: aflonyddu rhywiol; trais rhywiol; trais yn erbyn partner agos; ymosodiad rhywiol; paratoi i bwrpas rhyw; gorfodaeth neu fwlio gydag elfennau rhywiol; gwahoddiadau a cheisiadau rhywiol; sylwadau; cyfathrebu di-eiriau; creu awyrgylch anghysurus; ac addo adnoddau neu gynnydd yn gyfnewid am fynediad rhywiol.
Dim ond rhai o’r achosion o gamddefnyddio pŵer a all ddigwydd sy’n cael eu cyfleu gan y term ‘aflonyddu rhywiol’. Mae camymddwyn rhywiol yn fwy penodol yn codi materion yn ymwneud â pherthynas anghyfartal, cydsyniad, ac atal mynediad cyfartal at addysg, cyfleoedd a dilyniant gyrfaol.
Ymosodiad rhywiol
Mae ymosodiad rhywiol yn drosedd ac nid yn ymddygiad ar gyfer gweithdrefn gwyno a disgyblu’r brifysgol (sydd i’w chael yn https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/weithdrefn-disgyblu-myfyrwyr/) a’r Cod Myfyrwyr ar Urddas a Pharch. Mae person yn cyflawni ymosodiad rhywiol os yw’n cyffwrdd â pherson arall yn fwriadol, bod y cyffwrdd yn rhywiol ac nid yw’r person yn cydsynio.
Mae’n cynnwys pob cysylltiad corfforol digroeso o natur rywiol ac mae’n amrywio o binsio, cofleidio, byseddu a chusanu, i dreisio ac ymosodiad rhywiol sy’n cynnwys treiddiad heb gydsyniad.
Cydsyniad yw cytuno drwy ddewis, a chael y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw.
Mae person yn rhydd i wneud dewis os na fyddai dim byd drwg yn digwydd iddo/iddi pe bai’n dweud na.
Mae galluedd yn ymwneud ag a yw rhywun yn gallu gwneud dewis yn gorfforol a/neu’n feddyliol a deall canlyniadau’r dewis hwnnw.
Aflonyddu rhywiol
Aflonyddu rhywiol yw geiriau neu ymddygiad digroeso o natur rywiol sydd â’r diben neu’r effaith o greu amgylchedd bygythiol, o embaras, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus i’r derbynnydd. Mae’n gamddefnydd o bŵer personol neu sefydliadol ac yn aml yn seiliedig ar rywedd person er mai anaml y mae’n ymwneud â chwant rhywiol.
At ddiben y polisi hwn, mae a yw’r aflonyddwr wedi bwriadu bod yn sarhaus ai peidio yn amherthnasol. Mater i’r derbynnydd yw penderfynu ynglŷn â therfyn ymddygiad derbyniol fel y disgrifir yn y polisi hwn. Gall un digwyddiad neu ymddygiad cyson fod yn gyfystyr ag aflonyddu.
Gall aflonyddu rhywiol fod yn ymddygiad sy’n deillio o ymddygiad amlwg i unrhyw un neu ymddygiad cynnil sy’n llai amlwg naill ai i’r sawl sy’n gyfrifol am yr ymddygiad neu i’r derbynnydd. Yn aml ni theimlir ac ni welir yr effaith ar unwaith. Gall yr effaith fynd y tu hwnt i’r derbynnydd i bobl sy’n gweld neu’n clywed beth sy’n digwydd neu sy’n ceisio cynnig cymorth.
Gall aflonyddu rhywiol gynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i: hwtiad, dilyn, cyffyrddiad corfforol diangen a digroeso, jôcs a sylwadau rhywiol, rhoi rhoddion personol digroeso, chwibaniadau, cilwenu, sylwadau difrïol, sylwadau digroeso am gorff neu ddillad person, gofyn cwestiynau digroeso am fywyd rhywiol a/neu rywioldeb person, gwneud cynigion rhywiol digroeso, gwahoddiadau a fflyrtio, gwneud i rywun deimlo’n anghyfforddus trwy arddangos neu rannu deunydd rhywiol. Nid yw aflonyddu rhywiol o reidrwydd yn digwydd wyneb yn wyneb a gall fod ar ffurf e-byst, delweddau gweledol (fel lluniau rhywiol cignoeth ar waliau mewn amgylchedd a rennir), cyfryngau cymdeithasol, ffôn, negeseuon testun a chamymddwyn rhywiol ar sail delwedd, megis pornograffi dial a thynnu lluniau i fyny sgertiau.
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi bod yn darged camymddwyn, ymosodiad neu aflonyddu rhywiol, efallai y bydd yn anodd gwybod beth i’w wneud neu sut i deimlo. Nid eich bai chi oedd yr hyn a ddigwyddodd. Eich dewis chi yw’r hyn a wnewch nesaf.