Beth yw bwlio?
 
Nid yw bwlio byth yn dderbyniol. Gall fod yn anodd deall beth ydyw oni bai eich bod wedi ei brofi neu ei weld. Dyma rai diffiniadau defnyddiol:
 
Bwlio
 
Bwlio yw ymddygiad tramgwyddus, bygythiol, maleisus neu sarhaus sy’n ymwneud â chamddefnyddio pŵer a all wneud i berson deimlo’n agored i niwed, yn ofidus, wedi’i fychanu, wedi’i danseilio neu dan fygythiad. Nid yw pŵer bob amser yn golygu bod mewn sefyllfa o awdurdod, ond gall gynnwys cryfder personol a’r pŵer i orfodi trwy ofn neu fygythiad.
 
Gall bwlio fod ar ffurf ymddygiad corfforol, geiriol a di-eiriau. Mae ymddygiad di-eiriau yn cynnwys postiadau ar gyfryngau cymdeithasol. Gall bwlio gynnwys y canlynol:
 
●       Gweiddi ar, bod yn sarcastig tuag at, gwawdio neu ddiraddio eraill
●       Bygythiadau corfforol neu seicolegol
●       Lefelau gormesol a bygythiol o oruchwyliaeth
●       Sylwadau amhriodol a/neu ddirmygus am berfformiad rhywun
●       Camddefnydd awdurdod neu bŵer gan rai sydd mewn swyddi uchel
●       Gwahardd rhywun yn fwriadol o gyfarfodydd neu ohebiaeth heb reswm da
 
Os ydych chi eisiau siarad â rhywun, cysylltwch â chynghorydd, naill ai trwy ymweld â https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/wellbeing/access/ , neu trwy gyflwyno ffurflen Adrodd a Chymorth (bydd modd i chi ddewis a ydych yn dymuno datgelu eich enw a’ch manylion ai peidio).
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd