Sylw parhaus a diangen sy'n gwneud i unigolyn deimlo eu bod yn cael eu plagio a’u poeni. Mae'n cynnwys ymddygiad sy'n digwydd ddwywaith neu fwy, sy'n achosi i unigolyn deimlo'n ofnus neu'n ofidus neu ofni y gallai trais gael ei ddefnyddio yn eu herbyn. Er bod stelcio yn cynnwys dilyn rhywun, gall hefyd gynnwys ysbïo ar rywun, monitro defnydd rhywun o’r rhyngrwyd, ceisio cysylltu â rhywun yn barhaus, a loetran yn rhywle y maen nhw'n gwybod y bydd yr unigolyn yn ymweld ag ef.