Beth yw cydsynio?
Diffinnir cydsynio fel cytuno a rhoi caniatâd i ryngweithio ag unigolyn arall mewn unrhyw ffordd a fyddai'n effeithio ar eu ffiniau personol hwy a'ch ffiniau personol chi. Ni ellir cymryd cydsyniad yn ganiataol, hyd yn oed mewn perthynas neu briodas. Nid yw hyn yn unigryw i gydsyniad rhywiol a gallai gynnwys, ysgogi coflaid, neu gusan.
Mae cydsynio yn gyfforddus
Mae "ie" clir, gwenu, ymateb, ad-dalu’r serch, "Ie, plis", "Dal i fynd", ac ati oll yn nodi cydsyniad. I'r gwrthwyneb: mae "na", tawelwch, llonyddwch ac anystwythder, dim cyswllt llygad, gwingo, ymadroddion fel "Dwi ddim yn siŵr", "Dwi ddim yn hoffi hynny", "Plis stopia" yn awgrymu bod cydsyniad yn diflannu, neu nad yw'n bresennol o gwbl.
Rhoddir cydsyniad yn rhydd
Nid yw rhywun sydd wedi cael eu bygwth, eu blacmelio neu eu gorfodi yn rhydd i gydsynio.
Gellir tynnu cydsyniad yn ôl
Gellir tynnu'r cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg os bydd un o'r partïon yn newid eu meddwl neu'n teimlo'n anghyfforddus. Yn hanfodol, nid yw cydsynio i un weithred yn golygu cydsynio i bob gweithred, felly os ydych chi am roi cynnig ar rywbeth newydd gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael cydsyniad.
Mae cydsyniad yn weithredol
Rhaid i bob unigolyn mewn sefyllfa rywiol deimlo eu bod yn gallu dweud "ie" neu "na" neu roi'r gorau i'r gweithgaredd rhywiol ar unrhyw adeg. Ni all rhywun sy'n anymwybodol, yn cysgu neu'n methu â chyfathrebu roi cydsyniad. Yn yr un modd, gall alcohol a chyffuriau effeithio'n sylweddol ar allu rhywun i ddeall beth sy'n digwydd o'u cwmpas a chydsynio.
Yn olaf, dylai cydsyniad fod yn glir bob amser
Os ydych chi byth mewn unrhyw amheuaeth ynglŷn â chael cydsyniad rhywun, dylech stopio a gofyn a ydyn nhw'n iawn.