Beth yw aflonyddu?
 
Aflonyddu yw ymddygiad digroeso cysylltiedig â nodwedd warchodedig, sydd â’r diben neu’r effaith o darfu ar urddas unigolyn, neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus. Gall aflonyddu ddigwydd yn gorfforol, yn eiriol neu’n ddi-eiriau a gall fod yn fwriadol neu’n anfwriadol. Mae hefyd yn cynnwys trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd ei fod wedi ildio neu wrthod ildio i ymddygiad o’r fath yn y gorffennol.
 
Mae nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn credu bod aflonyddu yn annerbyniol hyd yn oed os nad yw’n dod o fewn unrhyw un o’r categorïau hyn.
 
Gall enghreifftiau o aflonyddu gynnwys:
●       Ymddygiad corfforol digroeso neu ‘chwarae gwirion’, gan gynnwys cyffwrdd, pinsio, gwthio, cydio, brwsio heibio rhywun, tarfu ar amgylchedd personol rhywun a mathau mwy difrifol o ymosodiad corfforol neu rywiol
●       Sylwadau neu ystumiau sarhaus neu fygythiol, neu adrodd jôcs neu chwarae triciau sy’n ansensitif
●       Gwatwar, dynwared neu fychanu anabledd person
●       Adrodd jôcs hiliol, rhywiaethol, homoffobig neu oedraniaethol, neu wneud sylwadau difrïol neu ystrydebol am grŵp ethnig neu grefyddol neu ryw penodol
●       Cyhoeddi neu fygwth cyhoeddi bod rhywun yn hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu draws
●       Anwybyddu neu gadw rhywun draw, er enghraifft, trwy eu gwahardd yn fwriadol o sgwrs neu weithgaredd cymdeithasol.
 
Gellir aflonyddu ar unigolyn hyd yn oed os nad y person dan sylw oedd y "targed" bwriedig. Er enghraifft, gellir aflonyddu ar rywun gan jôcs hiliol am grŵp ethnig gwahanol os ydynt yn creu amgylchedd sarhaus. 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd