Gall fod yn drallodus iawn os ydych wedi cael eich cyhuddo o fwlio, aflonyddu neu gamymddwyn rhywiol. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol na fydd y Brifysgol yn gwneud rhagdybiaethau ac na fydd yn ystyried person ‘ar fai’ nes bod ymchwiliad wedi’i gynnal i gyhuddiad. Bydd pawb sy’n gysylltiedig â chwyn yn cael eu trin yn deg ac yn cael cynnig cyngor a chymorth.
 
Mae’n arfer da treulio amser yn ystyried canfyddiad y person arall o’ch ymddygiad. Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo bod eich ymddygiad yn un llawn bwriadau da, efallai bod eich geiriau neu weithredoedd wedi brifo neu sarhau rhywun arall, a gellir meddwl am hyn fel cyfle i ddysgu, neu efallai newid agwedd.
 
  • Gwrandewch yn ofalus ar y gŵyn ac ar y pryderon penodol a fynegwyd. 
  • Stopiwch yr ymddygiad y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef ar unwaith; os bernir eich bod wedi bwlio neu aflonyddu ar rywun ar ôl i’w wrthwynebiad i’ch ymddygiad ddod yn hysbys i chi, bydd hwn yn cael ei ystyried yn fater mwy difrifol.
  • Mae’n debygol y bydd angen cyngor a chymorth arnoch i ddeall y gŵyn: dewch o hyd i ffordd o drafod y mater gyda rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo, megis rheolwr neu diwtor, rhywun a nodir gennych chi neu’r adran Cymorth Myfyrwyr neu Adnoddau Dynol i ddarparu cymorth priodol.
  • Os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich cyhuddo ar gam, ystyriwch ofyn am wasanaeth cyfryngu gan AD neu Wasanaethau Myfyrwyr. Mae’n bosibl y bydd trafodaethau anffurfiol â chymorth sy’n cynnwys chi, y sawl sy’n gwneud y cyhuddiad, a chyfryngwr hyfforddedig yn eich galluogi i drafod y materion a chanfod ffordd ymlaen.
  • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywbeth yn cael ei adrodd? 
  • Pan wneir adroddiad am fyfyriwr neu aelod o staff, mae gweithdrefnau i’w dilyn. Efallai y bydd y rhai sy’n adrodd yn dymuno siarad â chynghorydd aflonyddu i drafod eu hopsiynau ar gyfer datrysiad anffurfiol neu ffurfiol. 
  • Os eir ar drywydd datrysiad anffurfiol yna bydd rheolwr priodol, neu diwtor yn y sefyllfa, yn cysylltu â’r sawl wnaeth yr adroddiad i geisio datrys y mater. 
  • Os aiff y mater yn ei flaen yn ffurfiol, ymchwilir i ymddygiad myfyriwr yr adroddwyd amdano o dan y Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr, a bydd ymddygiad aelod o staff yr adroddwyd amdano yn cael ei ymchwilio o dan y Weithdrefn Gwyno Staff. 
 
Ceisio cymorth
 
Gall myfyrwyr sy’n pryderu am eu hymddygiad siarad â:
 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd